Cynllunio Cyfoeth y Teulu
Mae mwy na chreu cyfoeth ynghlwm wrth y gallu i gynllunio’n llwyddiannus ar gyfer cyfoeth; mae’n golygu hefyd sicrhau fod mesurau yn eu lle i’w diogelu, a’i drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf yn y ffordd fwyaf dreth-effeithiol â phosib.
Mae Rees Astley yn gwerthfawrogi ichi weithio’n galed trwy gydol eich bywyd i sicrhau’r cyfoeth sydd gennych, ac rydym yn awyddus i’ch helpu fod yn sicr y bydd eich teulu’n ddiogel o safbwynt ariannol os byddwch yn marw.
Trwy ein gwasanaethau rheoli cyfoeth, gallwn helpu trwy ystyried y meysydd canlynol:
- Cynllunio eich Ystâd Bersonol
- Cynllunio ar gyfer Treth Etifeddiant (IHT)
- Atwrneiaeth Barhaus
- Cynllunio Ymddiriedolaethau
- Eich Ewyllys
I gael mwy o wybodaeth ynghylch y cymorth sydd ar gael a helpu sicrhau cynllun cyfoeth cadarn, cysylltwch â ni.
Cynllunio'ch Ystâd Bersonol
Swyddfa Gwasanaethau Ariannol
- Cyfeiriad: Tŷ Mostyn, Stryd y Farchnad, Y Drenewydd, Powys, SY16 2PQ
- Rhif ffôn: 01686 626616
- Ebost: contact@reesastleyifa.co.uk