Adolygu Lwfansau Gydol Oes neu Flynyddol
Cyfanswm cyfraniadau blynyddol pensiwn a buddion pensiwn gydol oes o safbwynt mantais treth.
Y LWFANS BLYNYDDOL
Cyfyngiad ar y swm y gellir talu’n flynyddol i’ch pensiwn bob blwyddyn, a pharhau i dderbyn rhyddhad rhag treth yw’r lwfans blynyddol.
Mae’r lwfans yn berthnasol i gyfanswm y cyfraniadau y mae unigolyn yn eu derbyn, gan gynnwys cyfraniadau gan y cyflogwr. Ar hyn o bryd uchafswm y lwfans blynyddol yw £40,000 er gall uchafswm is o £10,000 fod yn berthnasol os ydych eisoes wedi cychwyn tynnu’ch pensiwn. Mae’r lwfans blynyddol yn berthnasol ar draws yr holl gynlluniau rydych yn aelod ohonynt.
Os byddwch yn mynd dros y lwfans blynyddol mewn blwyddyn, ni fyddwch yn cael rhyddhad rhag treth ar unrhyw gyfraniadau a dalwyd dros yr uchafswm, a byddwch yn gorfod talu ffi lwfans blynyddol.
LWFANS GYDOL OES
Mae’r lwfans gydol oes yn cyfeirio at gyfanswm y buddion pensiwn sy’n manteisio ar dreth y gall unigolyn ‘casglu’. Bydd cosb dreth yn berthnasol i unrhyw fuddion uwchben y lwfans gydol oes.
Mae symiau pensiwn yn cael eu mesur yn erbyn yr uchafswm hwn adeg cymryd eich buddion; h.y. pan fyddwch yn cymryd cyfandaliad neu incwm o’r gronfa. Adeg cymryd buddion maent yn defnyddio cyfran o’r lwfans gydol oes.
Daeth y lwfans gydol oes i fodolaeth yn 2006. Y lwfans cyfredol ar gyfer blwyddyn dreth 2015/16 yw £1.25 miliwn. Bydd y ffigur hwn yn gostwng i £1 miliwn o Ebrill 2016.
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar eich lwfans blynyddol neu’r lwfans gydol oes, hwyrach y byddai’n werth cysylltu â ni.
Gallwn helpu cael manylion ar werth cyfalaf eich buddion pensiwn eich holl drefniadau pensiwn, a gwirio a yw’n debygol y bydd eich buddion yn uwch na’r lwfans gydol oes erbyn ichi ymddeol. Byddwn hefyd yn cynnwys rhagolygon o ran cynnydd tebygol yn y gronfa a lefel cyfraniadau pensiwn y dyfodol a helpu eich diogelu rhag cosb dreth.
Pensiynau
Swyddfa Gwasanaethau Ariannol
- Cyfeiriad: Tŷ Mostyn, Stryd y Farchnad, Y Drenewydd, Powys, SY16 2PQ
- Rhif ffôn: 01686 626616
- Ebost: contact@reesastleyifa.co.uk