Gwarchod Agweddau Ariannol Personol
Mae pobl yn yswirio eu cartrefi, ceir, gwyliau a hyd yn oed anifeiliaid anwes weithiau, ond yn aml iawn byddwn yn hepgor yswirio rhai o’r pethau pwysicaf oll, sef ni ein hunain a’n teuluoedd.
Yn ein barn ni, dylai gwarchod y pethau hyn fod yn sail eich cynllun ariannol, felly pan fyddwch yn mynd trwy gyfnod emosiynol neu anodd oherwydd salwch annisgwyl, anaf neu os bydd rhywun yn marw’n gynnar, mae eich teulu’n ddiogel.
Gwasanaeth Adolygu Trefniadau Gwarchod
I gychwyn bydd Rees Astley yn adolygu unrhyw bolisïau sydd gennych eisoes, a gwirio fod lefel y polisi a’r gost yn gywir, yn ogystal ag asesu a ydynt dal yn addas ac yn berthnasol i’ch anghenion. Wedyn byddwn yn ymchwilio i’r darparwyr a’r opsiynau amrywiol sydd ar gael ar draws y farchnad cyn argymell unrhyw bolisïau ychwanegol neu amgen sy’n addas i’ch gofynion. Hefyd byddwn yn argymell unrhyw ymddiriedolaethau addas, os bydd hynny’n briodol i sicrhau fod y buddiolwyr cywir yn derbyn yr arian cyn gynted â phosib.
Trwy flaengynllunio a threfnu’r cynlluniau gwarchod cywir, gallwch fod yn sicr y bydd trefniadau yn eu lle i ofalu am y bobl sy’n agos atoch os byddwch yn marw.
Gellir darparu polisïau fel hyn mewn nifer o ffyrdd amrywiol, megis: yswiriant bywyd, polisi salwch critigol, polisi diogelu incwm, yswiriant meddygol preifat a pholisi gofal hirdymor.
Bydd polisi yswiriant bywyd yn talu arian allan pan fydd yr unigolyn sy'n destun y polisi yn marw.
Bwriad yr arian yw talu unrhyw ddyledion sy'n weddill a rhoi cefnogaeth ariannol i'r dibynyddion.
Bydd y math o yswiriant bywyd a'r swm a yswirir yn y polisi'n dibynnu ar eich amgylchiadau personol, a bydd yn ystyried ffactorau megis oedran, dibynyddion, lefel eich incwm a'ch ymrwymiadau ariannol.
Mae cynlluniau yswiriant bywyd amrywiol ar gael sy'n cynnig amrediad o opsiynau, megis: cyson, cynyddol, gostyngol, maent yn gallu rhedeg am gyfnod penodol neu am eich bywyd cyfan. Trwy dalu premiwm uwch, gellir ychwanegu sicrwydd ar gyfer salwch critigol fydd yn talu cyfandaliad os cewch ddiagnosis o salwch critigol.
Gellir ychwanegu buddion eraill at bob math o bolisi, megis marwolaeth trwy ddamwain, salwch critigol i blant ac anabledd llwyr barhaol, i enwi ychydig.
Yswiriant Tymor Lefel
Polisi yswiriant bywyd tymor lefel yw'r yswiriant bywyd mwyaf sylfaenol, ac fel arfer dyma'r ffordd rataf i yswirio eich bywyd. Mae'n ddilys am gyfnod penodol ac yn talu cyfandaliad os byddwch yn marw yn ystod cyfnod y polisi. Ar ddiwedd y cyfnod, daw'r cynllun i ben.
Diben y math yma o gynllun yw gadael cyfandaliad os bydd yr unigolyn a yswirir yn marw o fewn cyfnod penodol, a chadw'r gost mor isel â phosib ar yr un pryd.
Os bydd yr unigolyn dal yn fyw ar ddiwedd y polisi, daw'r polisi i ben, a does dim gwerth ynghlwm wrtho.
Yswiriant Tymor Gostyngol
Mae Polisi yswiriant dros dymor gostyngol yn gweithio mewn ffordd debyg i yswiriant tymor lefel ond gosodir y buddion ar y cychwyn i leihau'n raddol dros gyfnod y polisi. Fel arfer trefnir y cynlluniau hyn i gyd-fynd â dyled ar forgais sy'n lleihau, neu fenthyciadau eraill lle mae swm y cyfalaf sy'n weddill yn lleihau dros gyfnod.
Er bod y swm a yswirir yn lleihau'n raddol, mae'r cyfraniadau'n aros yr un peth trwy gydol cyfnod y polisi.
Yn debyg i yswiriant tymor lefel, os bydd yr unigolyn dal yn fyw ar ddiwedd cyfnod y polisi, daw'r polisi i ben a does dim gwerth ynghlwm wrtho.
Yswiriant Tymor Cynyddol
Math o yswiriant yw hwn lle gall y swm a yswirir cynyddu yn ystod cyfnod y polisi fel arfer i ystyried costau byw cynyddol. Wrth i'r swm godi dros gyfnod, bydd y premiwm hefyd yn cynyddu.
Bywyd Cyfan
Mae'r polisi hwn yn ddilys am eich bywyd cyfan ac yn gwarantu talu os byddwch yn marw, pryd bynnag fydd hynny.
Yn aml caiff ei ddefnyddio i ddelio gyda goblygiadau treth etifeddiant potensial trwy ei osod mewn ymddiriedolaeth. Yn achos marwolaeth, caiff y buddion eu talu i'r buddiolwyr dan delerau'r ymddiriedolaeth a gellir defnyddio'r arian yma wedyn i dalu'r bil treth.
Fel arfer mae'r math yma o bolisi'n ddrutach na pholisïau lle yswirir am gyfnod penodol.
Polisi Salwch Critigol
Gellir trefnu cynllun salwch critigol fel polisi wrth ei hunan, ond fel arfer gellir ei ychwanegu at gynlluniau yswiriant cyfnod penodol a chynlluniau bywyd cyfan.
Fel arfer mae polisi salwch critigol yn caniatáu talu'r cyfandaliad sy'n deillio o'r polisi yn achos diagnosis o anhwylder critigol penodol megis trawiad ar y galon, canser neu strôc.
Gall yr anhwylderau sy'n cael eu cynnwys yn y polisi amrywio'n sylweddol rhwng darparwyr felly mae'n bwysig dewis un sy'n cynnig lefel y warant sydd ei eisiau arnoch.
Un o'ch asedau ariannol pwysicaf yw'r gallu i ennill incwm, os nad y pwysicaf. Os ydych yn dibynnu ar eich incwm i dalu biliau a chynnal eich dewis ffordd o fyw, dylai diogelu eich ffrwd incwm fod yn flaenoriaeth ichi.
Diogelu eich Incwm
Diben polisi diogelu incwm yw sicrhau incwm arall i chi os byddwch yn methu gweithio oherwydd salwch neu ddamwain. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr yn talu cyflog salwch am gyfnod penodedig yn unig, ac ychydig iawn sy'n talu am gyfnod amhenodol.
Fel arfer, bydd y polisïau hyn yn dechrau talu ar ôl cyfnod gohiriedig a bennir a byddant yn parhau nes ichi ymddeol neu wella ac yn gallu dychwelyd i'r gwaith.
Bydd lefel y premiwm yn dibynnu ar lefel y buddion sydd eu hangen a'r tymor a ddewisir.
Gwarchod Incwm Teuluol
Diben y polisi hwn yw cymryd lle incwm a gollir yn achos eich marwolaeth er mwyn diogelu eich teulu yn erbyn colli eich incwm.
Os byddwch yn marw, mae'r polisi yn talu allan incwm penodol am weddill tymor y polisi yswiriant bywyd i alluogi eich teulu i gynnal eu safon byw.
Enw arall ar yswiriant iechyd yw yswiriant meddygol preifat, ac mae'n talu am driniaeth feddygol breifat, naill ai trwy dalu costau gofal meddygol preifat neu fel cyfandaliad.
Gall unigolyn gynnig cynlluniau ar gyfer eu hunain, naill ai fel bywyd sengl neu ar y cyd, a gellir cynnwys aelodau'r teulu hefyd. Mae lefelau sicrwydd gwahanol ar gael a bydd y driniaeth sydd ar gael yn dibynnu ar y polisi yswiriant.
Mae yswiriant gofal hirdymor yn rhoi'r gefnogaeth ariannol sydd ei angen i dalu am gymorth gofal i chi'ch hunan neu rywun agos atoch os byddwch/bydd yn methu gwneud nifer o weithgareddau sy'n cael eu hystyried yn hanfodol o safbwynt bywyd dyddiol.
Diben buddion y cynllun yw talu costau ffioedd cartrefi nyrsio ac mewn rhai achosion darparu gofal nyrsio yn eich cartref.
Er y gall y wladwriaeth helpu gyda rhai achosion, mae'r cymorth sydd ar gael a'r meini prawf cymhwysedd yn gyfyngedig. Efallai y bydd angen talu am ofal hirdymor os nad ydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol gan yr awdurdod lleol, neu os ydych am dderbyn gofal o safon uwch neu i dalu am unrhyw ddiffyg yn y ffioedd gofal.
Gall darparu gofal hirdymor fod yn faich ariannol difrifol. Os ydych yn pryderu am gost ffioedd gofal hirdymor, cysylltwch ag un o ymgynghorwyr arbenigol achrededig Rees Astley.
Amddiffyn
Swyddfa Gwasanaethau Ariannol
- Cyfeiriad: Tŷ Mostyn, Stryd y Farchnad, Y Drenewydd, Powys, SY16 2PQ
- Rhif ffôn: 01686 626616
- Ebost: contact@reesastleyifa.co.uk